PET(4)-05-12 p17a
P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cŵn Bach yn Ne-orllewin Cymru
Geiriad y Ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol i orfodi safonau lles anifeiliaid yn y diwydiant ffermio cŵn bach yn ne-orllewin Cymru.
Ceir yr ymyrraeth a’r ymchwiliad annibynnol hyn o ganlyniad i’r atgasedd eang sy’n bodoli oherwydd ei bod mor rhwydd cael trwydded i ffermio cŵn bach ac yn sgil diffyg gorfodi safonau lles. Mae’r atgasedd hwn yn creu delwedd negyddol iawn o Gymru ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.Yn ein barn ni, sefydlu ymchwiliad annibynnol yw’r unig ffordd ymlaen, a bydd hyn yn gam bach tuag at adfer enw da Cymru ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.Gobeithiwn y bydd yr ymchwiliad hefyd yn cwtogi ar weithgareddau ffiaidd y ffermydd cŵn bach didrwydded.
Cynigwyd gan: Colin Richardson
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Mis Hydref 2011
Nifer y llofnodion: 2169